Rhif y ddeiseb: P-06-1317

Teitl y ddeiseb: Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog

Geiriad y ddeiseb: Mae Cynorthwywyr Addysgu yn rhan hynod bwysig o’r gwaith o redeg ysgolion yng Nghymru, ond nid yw ein Llywodraeth yn cydnabod hynny ar hyn o bryd, o gofio faint y mae’r staff hyn yn cael eu talu.

Heb Gynorthwywyr Addysgu, ni fyddai ysgolion yn gallu darparu ar gyfer y nifer uchel o fyfyrwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig. Maent yn gweithio’n galed, ac mae’r cyflog isel y maent yn ei gael am y gwaith hwn yn enghraifft o gamwahaniaethu. Mae rôl Cynorthwywyr Addysgu yn anodd, ac mae’r pwysau gwaith arnynt ar hyn o bryd yn aruthrol. Mae’r dyletswyddau yn cynnwys cefnogi myfyrwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig (yn aml ar sail un i un), addysgu grwpiau o blant ac weithiau dosbarthiadau cyfan os bydd athro’n absennol, cynllunio gwersi, trefnu gweithgareddau allgyrsiol a sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial – ond nid yw eu gwaith yn gyfyngedig i’r dyletswyddau hynny. Yn anffodus, oherwydd bod y cyflog mor isel, nid yw llawer o Gynorthwywyr Addysgu yn gallu fforddio aros yn y swydd, ac mae nifer fawr o staff profiadol yn cael eu gorfodi i chwilio am swyddi eraill. Mae’n rhaid i hyn newid.

 

 

 

 


1.        Cyflogau cynorthwywyr addysgu

Bydd cynorthwywyr addysgu yn cael eu talu naill ai o gyllidebau ysgol neu o gyllidebau awdurdodau lleol.  Sawl blwyddyn yn ôl, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad ymchwil ar gyflogi a defnyddio staff cymorth mewn ysgolion yng Nghymru (2008) a ganfu’r hyn a ganlyn:

Most schools said that the National Joint Council for Local Government Services (NJC) rates were used for teaching and learning assistants and administrative staff. Most also indicated that LEA [local authority] advice was the usual method of calculating support staff wages where the NJC scales were not used. A slightly different view was offered by the LEAs who said that decisions about the wages of staff not employed on NJC scales were taken by schools or jointly by schools and LEAs.

Mae data diweddaraf gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn dangos bod nifer y gweithwyr cymorth dysgu cofrestredig mewn ysgolion wedi cynyddu 27.4 y cant ers 2017 a 10.1 y cant rhwng 2021 a 2022 i 42,585.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Ar 18 Chwefror 2022, cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ddatganiad ysgrifenedig, sef Diweddariad ar weithgareddau i gefnogi’r rhai sy’n cynorthwyo addysgu. Dywedodd fod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a oedd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, undebau llafur, awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg, cynorthwywyr addysgu a chynrychiolaeth penaethiaid, wedi nodi sawl maes allweddol i roi sylw iddynt:

§    Lleoli cynorthwywyr addysgu - byddai Grŵp Llywio Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu newydd yn datblygu adnoddau pellach ar gyfer arweinwyr a llywodraethwyr ar leoli cynorthwywyr addysgu. Roedd y Gweinidog hefyd wedi cytuno i brosiect ymchwil gymharol i edrych ar y defnydd o gynorthwywyr addysgu mewn systemau addysg eraill.

§    Mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol - ers 2017, mae Llywodraeth Cymru a’r Consortia Rhanbarthol wedi cefnogi’r nod o ddatblygu Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu i gynyddu nifer ymgeiswyr Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch; darparu hyfforddiant i bob cynorthwyydd addysgu newydd; a chynnig cyfleoedd i ennill cymwysterau lefel 2 mewn rhai pynciau craidd. Ers mis Medi 2022, mae cynorthwywyr addysgu yn cael defnyddio’r Hawl Genedlaethol newydd ar gyfer Dysgu Proffesiynol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

§    Safoni rolau - byddai'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ystyried a oes modd rhoi set safonol o ddisgrifiadau swydd ar waith ledled Cymru ac, os felly, sut.

§    Cyflog - ystyriaeth hirdymor i awdurdodau lleol yn seiliedig ar ganlyniadau'r uchod. Er mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol a/neu ysgolion yw cyflogau o hyd, mae’r Gweinidog wedi dweud y gall y gwaith ar leoli a safoni rolau ddod â mwy o gydlyniaeth i gefnogi trafodaethau cyflog, i weithio tuag at fwy o gysondeb rhwng ardaloedd awdurdodau lleol ac i gefnogi awdurdodau lleol fel y bydd telerau ac amodau yn adlewyrchu’r rôl bwysig y mae cynorthwywyr addysgu yn ei chwarae.

Yn ogystal, dywedodd y Gweinidog y byddai’n ysgrifennu at gorff llywodraethu pob ysgol yn argymell eu bod yn rhoi rôl 'Hyrwyddwr Cynorthwyydd Addysgu' i un o'u haelodau. Byddai gan yr hyrwyddwyr hyn gyfrifoldeb i sicrhau bod persbectif a mewnbwn cynorthwywyr addysgu yn cael eu ceisio a'u cynnwys yn y broses ar gyfer penderfyniadau allweddol.

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi troi’n “Fwrdd Gweithlu Staff Cymorth Ysgolion”. Mae'n cyfarfod bob tymor ac yn monitro’r cynnydd a wneir o ran gweithredu argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

3.     Deisebau eraill

Caeodd deiseb ar y pwnc hwn i Senedd y DU ar 2 Chwefror 2023. Roedd gan y ddeiseb honno’r un geiriad â'r hyn sydd gerbron y Pwyllgor. Cafodd y ddeiseb honno 87,275 o lofnodion (ar adeg ysgrifennu’r papur hwn). Ymatebodd Llywodraeth y DU ar 12 Awst 2022, gan ddweud y canlynol:

§    Mae gan ysgolion ryddid i bennu cyflogau ac mae'r rhan fwyaf yn adlewyrchiad o raddfeydd cyflog llywodraeth leol.

§    I’r rhan fwyaf o staff, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, mae gan ysgolion y rhyddid i recriwtio yn unol â’u hamgylchiadau eu hunain ac i bennu tâl ac amodau.

§    Mae cyflog cynorthwywyr addysgu wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2017. Cododd cyflog y llynedd rhwng 1.75 a 2.75 y cant ar gyfer cynorthwywyr addysgu, a chafodd hyn ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2021.

§    Nid oes gan y llywodraeth rôl wrth bennu cyflogau llywodraeth leol ac nid oes corff cyflogau cenedlaethol. Yn lle hynny, mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar y cyd. Mae'r cyflogwr yn cael ei gynrychioli gan Gymdeithas Llywodraeth Leol, sy’n trafod â'r Cyd-gyngor Cenedlaethol (UNSAIN, Unite a'r GMB) sy'n cynrychioli'r gweithiwr.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.